[Pennill 1]
[Em] [C]
Ar ôl gweld y llun
[G] [D]
Ar ôl gweld drwy y llen
[Em] [D]
Yr hyn sy’n dy boeni di
[Am] [D]
Ydi’r geiria’n dy ben
[Em] [D]
Be’ os ‘does dim tawelwch?
[G] [Em]
Be’ os ‘does ‘na ddim trefn?
[Em] [D]
Fel y cestyll sydd yn dymchwel ar y traeth
[G] [Em]
Wrth i’r llanw eu hadennill drachefn
[Cytgan]
[Am] [C]
Ond mae cariad fel y moroedd sydd yn troi’n gymylau glaw
[G] [D]
Yna’n disgyn ar fynyddoedd ac yn casglu yn y baw
[Am] [C]
Cyn llifo i lawr y creigiau ar hyd llwybrau unig iawn
[G] [D]
Ond bob un ddaw’n ôl i’r tonnau, rhaid i’r gylchred fod yn llawn
[Am] [C] [G]
Bob un, ei hun
[Am] [C] [G]
Bob un, fel un
[Pennill 2]
[Em] [C]
Bob un sydd â’i hwyl
[G] [D]
Bob un sydd â’i rwyf
[Em] [D]
Bob un sydd â’i angor drom
[Am] [D]
A phob un sydd â’i glwyf
[Em] [D]
Unig iawn yw’r pellteroedd
[G] [Em]
Rhwng pob capten, rhwng pob cwch
[Em] [D]
Ond yr un yw ein gobaith ar y daith
[G] [Em]
Felly unwn oll mewn ton o gyfeillgarwch
[Cytgan]
[Am] [C]
Ond mae cariad fel y moroedd sydd yn troi’n gymylau glaw
[G] [D]
Yna’n disgyn ar fynyddoedd ac yn casglu yn y baw
[Am] [C]
Cyn llifo i lawr y creigiau ar hyd llwybrau unig iawn
[G] [D]
Ond bob un ddaw’n ôl i’r tonnau, rhaid i’r gylchred fod yn llawn
[Am] [C] [G]
Bob un, ei hun
[Am] [C] [G]
Bob un, fel un
[Pont]
[Am]
Coda’r angor, dyma’r awr
[C]
Tua'r gorwel gwêl y wawr
[G]
Mae’n bryd i ni symud ’nôl
[D]
Tuag at ein gwreiddiau
[Am]
I gofio’r hyn a fu o’r blaen
[C]
I ni gyd gael symud ‘mlaen
[G]
Efo’n gilydd awn fel un
[D]
Tuag at y tonnau
[Diweddglo]
[Am]
O, ti’n cofio’r môr yn dda
[C]
O, tyrd at y tonnau
[G]
O, ti’n cofio’r ffordd yn dda
[D] [Am]
O, tyrd at y golau